Ynghylch Caerffili 2035

Caerffili – tref sy’n llawn potensial.

Gyda’r castell mwyaf yng Nghymru yn cynnig profiad treftadaeth heb ei ail sy’n denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd, mae ein prif gynllun adfywio ar fin trawsnewid y dref yn ganolfan fywiog, ddeinamig sy’n gwahodd ymweliadau mynych.

O lansiad marchnad newydd Ffos Caerffili yn gynnar yn 2024 ac adnewyddu Stryd Pentre-baen i ychwanegu gwesty 80 gwely yn darparu llety haen uchaf, mae ein cynlluniau eang wedi’u cynllunio i ddod â newid trawsnewidiol i’r dref.

Caerffili: Lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Prosiectau arfaethedig ledled canol y dref:

Bydd Tref Caerffili yn 2035 yn…

1. CYRCHFAN ENWOG I DWRISTIAID

…. sy’n manteisio’n llawn ar bresenoldeb Castell Caerffili i ddarparu profiad ymwelwyr unigryw i y bydd pobl am ail-ymweld ag ef.

2. TREF GYSYLLTIEDIG

…. gyda chyfnewidfa drafnidiaeth fodern sy’n darparu mynedfa drawiadol i’r dref, yn cysylltu’r dref â’r rhanbarth ehangach ac yn darparu sylfaen i archwilio’r dirwedd o’i hamgylch.

3. CYRCHFAN BUSNES

…. gyda chanolfan economaidd nodedig yn y gyfnewidfa drafnidiaeth, coridor datblygu pwrpasol sy’n cysylltu’r gyfnewidfa â Pharc Busnes Caerffili gyfunol, a chyfres o fannau gweithio hyblyg yng nghanol y dref.

4. LLE GWYCH I FYW

…. gydag amgylchedd ardderchog ar gyfer trigolion presennol a newydd sy’n seiliedig ar ddewis o gartrefi newydd, mannau gweithio hygyrch, a dewisiadau hamdden amrywiol.

5. TREF HAMDDEN

… sy’n darparu cynnig manwerthu a hamdden amrywiol sy’n bodloni gofynion bob dydd, ond sydd hefyd yn cynnwys cynnyrch pwrpasol a bwyd a lluniaeth gwych ddydd a nos.

6. PARTH CYHOEDDUS CYNHWYSOL A DENIADOL

…. tref sydd â rhwydwaith o strydoedd a mannau gwyrdd unigryw sy’n sicrhau’r golygfeydd gorau o’r Castell, sy’n darparu lle ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac sy’n ddiogel ac yn hygyrch.

7. TREF GLYFAR

… gyda seilwaith digidol rhagorol ar gyfer gofod gweithio newydd a brand digidol unigryw y gall busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, preswylwyr ac ymwelwyr ei hysbysu ac elwa ohono.

8. TREF CARBON ISEL

… sydd wedi’i dylunio ar gyfer anghenion ynni’r 21ain Ganrif i hwyluso’r defnydd o ynni isel, ynni adnewyddadwy a theithio, effaith amgylcheddol isel a gallu i addasu.