Syniadau uchelgeisiol yng Ngweledigaeth Tref Caerffili 2035

Statws prosiect:

Mewn ymgynghoriad

Mae canol tref Caerffili yn gyrchfan dwristiaeth sefydledig, mae ganddi gysylltiad da â Chaerdydd a’r rhanbarth ehangach, ac mae’n fynedfa i dirwedd syfrdanol.

Mae’r dref ar fin derbyn buddsoddiad sylweddol, wrth i Cadw drawsnewid y Castell yn gyrchfan haen un ac mae Metro De Cymru wedi ymrwymo i wella cysylltedd y dref trwy ddarparu chwe thrên yr awr rhwng Caerffili a Chaerdydd erbyn mis Rhagfyr 2023. Mae’r dref felly yn cynnig cyfle sylweddol… ac mae uchelgeisiau mawr ar ei chyfer.

Pwrpas Tref Caerffili 2035 yw darparu Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili gyda fframwaith integredig ar gyfer ailddatblygu strategol canol tref Caerffili. Mae’n gosod allan y dyheadau ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, mae’n nodi set clir o brosiectau y gellir eu datblygu a’u gweithredu dros y tymor byr, canolig a hir i arwain twf a helpu i wneud Caerffili yn lle deniadol i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo.

“Mae diogelwch pobl yn yr hinsawdd presennol ar flaen meddwl pawb, ond mae pandemig Covid-19 wedi cyflymu newid sylweddol a oedd eisoes yn digwydd yng nghanol trefi. Mae’n hanfodol i’n ffyniant yn y dyfodol ein bod mewn sefyllfa dda ac yn barod i gofleidio ffyrdd newydd pobl o fyw, gweithio a theithio – nid yw sefyll yn ein hunfan yn opsiwn.”

Rhannu’r prosiect yn lleol…

Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau y bydd anghenion y gymuned gyfan yn cael eu hadlewyrchu. A wnewch chi rannu’r dudalen hon gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen.