Cadw yn cyhoeddi manylion buddsoddiad gwerth £5 miliwn

Statws prosiect:

Cam Cysyniad

Heddiw (17 Mehefin), mae Cadw wedi datgelu’r manylion am fuddsoddiad gwerth £5m mewn gwaith datblygu yng Nghastell Caerffili ― prosiect a gynlluniwyd i gadarnhau’r safle fel atyniad treftadaeth o’r radd flaenaf erbyn 2023.

Fel rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £9.5m i safleoedd hanesyddol Cymru, bydd yr hwb ariannol yn gweld yr heneb o’r 13eg ganrif yn elwa ar raglen eang o gadwraeth, gwelliannau o ran mynediad i’r safle, ac ailwampiad llwyr i ddehongliad y safle.

Bydd y prosiect yn arwain at osod canolfan ymwelwyr newydd sbon i ddarparu tocynnau, arlwyo, a chyfleusterau toiled i ymwelwyr ― gan gynnwys lle newydd i’w ddefnyddio gan grwpiau addysgol ― a diweddariadau i’r siop bresennol.

Hefyd, bydd y gwaith yn cynnwys trawsnewidiad dramatig i’r Neuadd Fawr ganoloesol ― lle a fu’n ganolbwynt i ddigwyddiadau a luniodd hanes. Adeiladwyd y Neuadd Fawr ― y mwyaf o’i bath yn y DU ― ar ddiwedd y 13eg ganrif, a bydd yn cael ei hadnewyddu i adlewyrchu ysblander dyddiau ei gogoniant.

Wrth wraidd y prosiect mae’r cynllun i osod dehongliad newydd ledled y castell ― i helpu ymwelwyr i archwilio a deall stori gymhleth castell mwyaf Cymru, a’r dynion a’r menywod a’i adeiladodd ac a fu’n byw ynddo. Bydd y dehongliad yn rhychwantu hanesion o darddiad canoloesol Castell Caerffili i’r ymdrechion i’w adfer yn yr 20fed ganrif.

Mae angen paratoi’n ofalus ar gyfer gwaith mawr fel hwn: mae gwaith ymchwil trylwyr a dadansoddi archeolegol yn digwydd, i ymchwilio i weld a oes unrhyw olion archeolegol wedi goroesi, a hynny cyn i’r gwaith cadwraeth ddechrau. Mae Wessex Archaeology ar y safle ar hyn o bryd, yn gwneud gwaith cloddio yn yr ardal wrth y fynedfa i’r castell, lle mae Cadw yn gobeithio adeiladu ei ganolfan ymwelwyr newydd.

Dywedodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Yma yng Nghymru, mae ein treftadaeth genedlaethol falch yn chwarae rhan hynod bwysig yn ein cynnig diwylliannol i gymunedau lleol ― ac mae’n un o gerrig sylfaen ein heconomi dwristiaeth.

“Wrth inni dynnu ynghyd fel gwlad i wella o effaith y pandemig, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn safleoedd fel Castell Caerffili. Rwy’n hyderus y bydd prosiect Cadw nid yn unig yn helpu i ymhelaethu ar safle’r heneb fawreddog hon fel atyniad o’r radd flaenaf ― ond bydd hefyd yn helpu i hybu twristiaeth a chadarnhau adferiad parhaus Cymru o’r pandemig.”

Mae Cadw wedi penodi penseiri MACE i ddylunio a goruchwylio’r datblygiadau cyffrous, ac mae’n gweithio’n agos gyda Wessex Archaeology a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Arolygydd Henebion Cadw:

“Castell Caerffili yw un o gestyll mawr Ewrop y canoloesoedd. Bydd ein prosiect yn gwarchod y castell ac yn helpu i ddod â’i stori ddiddorol yn fyw.

“Rydyn ni’n gweithio gyda rhai cwmnïau dehongli gwirioneddol arloesol ac yn defnyddio gwybodaeth haneswyr ac archeolegwyr i lywio ein cynigion ac i lunio onglau newydd ar stori’r castell, a’r rôl y mae wedi’i chwarae ar hyd y canrifoedd.

“Un o’n hamcanion yw gwneud y castell yn fwy hygyrch i bobl. Dros y gaeaf, fe ddechreuon ni wneud gwelliannau i’r llwybrau yn y ward fewnol fel y gall ymwelwyr gyrraedd mwy o fannau, gan gynnwys pobl mewn cadeiriau olwyn.

“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r cyllid hwn ac, yn y tymor hir, edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y gwaith cadwraeth hanfodol a’r gwell profiad i ymwelwyr yn helpu pobl Cymru a thu hwnt i ddeall ac i ddathlu stori ddiddorol Castell Caerffili.”

Mae Cadw hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgynhoriaeth ecolegol annibynnol, BSG Ecology, ar waith i wella amgylchedd naturiol y castell. Yn gynharach eleni, heuwyd hadau blodau gwylltion ar diroedd y castell a gosodwyd bocsys i ystlumod ac adar eu clwydo, er mwyn annog bywyd gwyllt i ffynnu ar y safle. Ac ar y ffos, gosodwyd rafftiau arnofiol ar gyfer nythod glas y dorlan.

Dywedodd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

“Mae’n siŵr y bydd y gwaith arfaethedig yng Nghastell Caerffili yn dod â mwy o ymwelwyr i’r dref, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r gwelliannau ecolegol o amgylch tiroedd y castell sydd ond yn ddechrau i’r prosiect gwirioneddol drawsnewidiol hwn.

“Mae Cyngor Caerffili yn croesawu’r cyllid hwn ar gyfer yr ardal leol, ac edrychwn ymlaen at weld yr hwb y bydd yn ei roi i’r economi leol. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Cadw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am y prosiect gwych hwn wrth iddo ddatblygu.”

 

Rhannu’r prosiect yn lleol…

Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau y bydd anghenion y gymuned gyfan yn cael eu hadlewyrchu. A wnewch chi rannu’r dudalen hon gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen.