Castell Caerffili

Statws prosiect:

Dichonoldeb

Gwaith cadwraeth yn cychwyn yng Nghastell Caerffili

Mae Cadw wedi cyhoeddi bod gwaith wedi cychwyn ar ei brosiect gwerth £5 miliwn i drawsnewid Castell Caerffili o fod yn gawr sy’n cysgu i fod yn atyniad treftadaeth o safon ryngwladol.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys gwell cyfleusterau i ymwelwyr mewn adeilad derbynfa newydd wrth y fynedfa, adnewyddu’r siop bresennol, a gwelliannau mynediad i lwybrau trwy’r castell i sicrhau y gall ymwelwyr o bob gallu fwynhau’r safle.

Yn ganolog i’r prosiect mae ailwampio gwerth £1 miliwn o ddehongli safle gan gynnwys technegau digidol newydd o’r radd flaenaf, gan gyflwyno straeon y dynion a’r menywod a adeiladodd ac a fu’n byw yng Nghastell Caerffili. Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cynigion i ailwisgo’r Neuadd Fawr, y mwyaf o’i chyfnod yn y wlad, i ailgreu awyrgylch a mawredd awr ei hanterth yn canoloesoedd.

Mae Cadw yn gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Mace Group Ltd, penseiri Purcell, Bright3D, amrywiol Beirianwyr, a Wessex Archaeology i ddod â’r cynigion hyn yn fyw. Mae’r gwaith cychwynnol yn cynnwys arolwg ac ymchwiliadau manwl gan gynnwys gwerthusiadau archeolegol y bwriedir eu cynnal y gwanwyn hwn.

Ffeiliau prosiect

Oriel y prosiect

 

Rhannu’r prosiect yn lleol…

Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau y bydd anghenion y gymuned gyfan yn cael eu hadlewyrchu. A wnewch chi rannu’r dudalen hon gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen.