Ffos Caerffili yn agor i’r cyhoedd

Mae Ffos Caerffili – marchnad mewn arddull cynwysyddion cludo yng nghanol tref Caerffili – ar agor heddiw. Mae’r safle newydd yn llawn masnachwyr annibynnol a gwerthwyr bwyd: 

Mae agoriad y farchnad yn nodi cam cyntaf Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan Fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. 

Mae’r cynllun hefyd wedi’i gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n biler canolog yn agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU. 

Mae’r farchnad yn ar agor i’r cyhoedd heddiw, Dydd Gwener, 5 Ebrill, gyda mwy o ddathliadau y penwythnos yma.  

Mae Ffos Caerffili wedi ei lleoli drws nesaf i’r castell ar Park Lane, tu ôl i’r brif stryd. 

Dywedodd Cynghorydd Caerffili, Jamie Pritchard, “Rydym yn mawr obeithio y bydd Ffos Caerffili yn fan ble mae trigolion yn medru mwynhau ac ymweld droeon. Cymysgedd da o fusnesau a naws gadarnhaol, gyfeillgar y bore yma. Pob lwc i’r masnachwyr!” 

Dywedodd gweithredwr Ffos Caerffili, Grant Jones: “Rydym yn hynod gyffrous i rannu rhyfeddodau Ffos Caerffili gyda’r holl drigolion lleol.” 

“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda’r holl fusnesau sy’n cymryd rhan i gyflwyno ystod wych o fasnachwyr lleol ac rydym wrth ein bodd y bydd y gofod yn dod yn ganolfan fywiog a chyffrous o nwyddau, cynnyrch a gwasanaethau o safon yng Nghaerffili cyn bo hir.”