Stryd Pentre-baen
Statws prosiect:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ailddatblygu Stryd Pentre-baen, gan ddod â newidiadau cyffrous i’r ardal.
Ein gweledigaeth yw creu cymuned fywiog, gynaliadwy a chynhwysol sy’n darparu ar gyfer anghenion trigolion a busnesau. Mae’r cynllun yn cynnwys caffael eiddo ar hyd Stryd Pentre-baen, gan gynnwys y farchnad dan do, i wneud lle ar gyfer adeiladu gofod masnachol ar y llawr gwaelod.
Rydym yn partneru â Chymdeithas Tai Linc Cymru i greu datblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys mannau cydweithio, unedau manwerthu, a chaffi, i gyd mewn un lleoliad cyfleus.
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i greu opsiynau tai fforddiadwy i drigolion Caerffili, bydd y prosiect hwn yn cynnwys hyd at 64 o fflatiau Carbon Sero Net, gyda 50% wedi’i ddyrannu ar gyfer rhentu cymdeithasol.
Bydd y prosiect hwn yn adfywio Stryd Pentre-baen, gan ddod â chyfleoedd newydd i fusnesau a thai diogel a sicr i drigolion – gan greu cymuned y gallwn oll fod yn falch ohoni.
Ffeiliau prosiect
Oriel y prosiect
Rhannu’r prosiect yn lleol…
Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau y bydd anghenion y gymuned gyfan yn cael eu hadlewyrchu. A wnewch chi rannu’r dudalen hon gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen.