
Caiff y cynlluniau ailddatblygu ar gyfer Neuadd y Gweithwyr eu llunio gan leisiau’r gymuned leol.
Fe wnaeth ymgysylltu â thrigolion dynnu sylw at uchelgais glir i gael gofod theatr o’r radd flaenaf, rhywle ble y gall creadigrwydd ffynnu, a lle gall y gymuned ddod at ei gilydd.
Nod y prosiect, dan arweiniad Cynefin Caerffili, yw trawsnewid y neuadd hanesyddol yn lleoliad diwylliannol bywiog, rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, gyda sgriniau sinema, stiwdios creadigol, a mannau gwaith hyblyg i bawb.
