Bywyd o ongl wahanol.

Caerffili | Caerphilly 2035

Bydd ein Cynllun Creu Lleoedd mentrus ac uchelgeisiol yn trawsnewid Caerffili, gan ei
gwneud yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi

Mae Caerffili yn lle ar gyfer syniadau mawr a safbwyntiau newydd. Dyna pam rydyn ni,  ar y cyd gyda phobl Caerffili, yn ailddychmygucanol y dref er mwyn adlewyrchu ei chymeriad, ei hanghenion a’i dyheadau unigryw.

Cynllun Creu Lleoedd: yn ei hanfod

Mae cynllun creu lleoedd yn lasbrint ar gyfer creu mannau cyhoeddus atyniadol sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a lle. Mae’n broses ar y cyd sy’n ffocysu ar obeithion cymdeithasol, diwylliannol, ariannol ac amgylcheddol cymuned.

Marathon, nid sbrint

Gadewch i ni egluro…mae Cynlluniau Creu Lleoedd fel paratoi ar gyfer marathon. Mae sawl cam cyn cychwyn y ras (y cynllun).

Gweledigaeth

Cam 1

Dyma’r weledigaeth sydd gan Gaerffili am sut dref rydyn ni am fod. Dyma ein nod ac rydyn ni’n benderfynol o’i gyrraedd.

Ymgysylltu â’r gymuned

Cam 2

Caiff Cynlluniau Creu Lleoedd eu gyrru gan bobl leol. Drwy weithdai, arolygon a chyfarfodydd cyhoeddus, rydyn ni’n sicrhau bod lleisiau’r gymuned yn cael eu clywed – bob cam o’r ffordd.

Strategaeth

Cam 3

Nid diwedd y cynllun yw’r syniadau. Mae ein strategaeth yn amlinellu’r camau rydyn ni’n cymryd i gynllunio, adeiladu a darparu datblygiadau er mwyn gwneud Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Deuparth gwaith (ei ddechrau)

Nododd Ffos Caerffili y cam cyntaf ym mhrosiect Tref Caerffili 2035, ond mae llawer mwy ar y gweill.

P’un ai eich bod yn byw yn y dref, yn chwilio am le i alw’n gartref, yn entrepreneur neu’n ymweld â’r dref, mae Caerffili ar eich cyfer chi.

Erbyn 2035, bydd y si am Gaerffili ar bob stryd.

Erbyn 2035, bydd y si am Gaerffili ar bob stryd. Ein siwrnai...

Caerphilly Castle | Visit Caerphilly
Mawrth 2020
  • Genedigaeth tref Caerffili 2035
Ffos Caerphilly Sign | Caerphilly 2035
Ebrill 2024
  • Ffos Caerffili
Windsor Square Improvements | Caerphilly 2035
Datblygiadau tymor byr 1-3 blynedd
  • Sgwariau Windsor a Stockland
  • Uwchraddio Castell Caerffili
  • Caerphilly Castle Upgrades
  • Hwb Hamdden a Lles
  • Austin Grange
Hotel and Leisure Quarter Vision | Caerphilly 2035
Datblygiadau tymor canolig 3-5 mlynedd
  • Canolfan Ddiwylliannol
  • Ardal Gwesty a Hamdden
Existing Caerphilly Train Station | Caerphilly 2035
Datblygiadau tymor hir 8-10 mlynedd
  • Cyfnewidfa Trafnidiaeth Caerffili
  • Ness Tar

Creu lle

Hedfanwch dros Gaerffili i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer ein tref.

Archwilo Caerffili

Cliciwch trwy Gaerffili

Map y prosiect

Click through Caerffili

Mwynhewch bob datblygiad yn Caerffili. Cliciwch ar y cardiau prosiect isod a dewch gyda ni drwy'r dref.

Go back
Sunny view of Caerphilly Castle and moat with green landscape surrounding the water

Castell Caerffili

More info

Bydd prosiect Cadw, gwerth £16 miliwn, yn gwarchod ac yn trawsnewid Castell Caerffili o'i drwmgwsg i fod yn atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf.

Find out more
High-angle view of people shopping and socialising at Ffos Caerphilly container market

Ffos Caerffili

More info

Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol a mannau gwaith - mae Ffos Caerffili wedi'i wneud i bawb.

Find out more
Train at Caerphilly station showing the existing station before the transport interchange redevelopment

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Caerffili

More info

Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu porth i drigolion ac ymwelwyr newydd.

Find out more
Render of proposed improvements to Windsor Square with flower beds, trees and new benches in Caerphilly

Sgwariau Windsor a Stockland

More info

Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy'n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu. Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae'r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.

Find out more
Photograph of Caerphilly Workmen’s Hall as part of the planned cultural redevelopment project

Neuadd y Gweithwyr

More info

Canolfan ddiwylliannol i ddathlu creadigrwydd Caerffili.

Find out more
Telraam smart monitoring device used to count cars, cyclists and pedestrians in Caerphilly

Telraam

More info

Synhwyrydd ar gyfer casglu data traffig, sy’n cael ei bweru gan ddinasyddion, yw Telraam. Bydd yn helpu pobl i ddeall sut mae pawb yn teithio, gan wneud mynd i mewn ac o gwmpas Caerffili yn haws.

Find out more
Render of the proposed Pentrebane Street development with new apartments and commercial units in Caerphilly town centre

Stryd Pentrebane

More info

Menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel.

Find out more