Caerffili’n Datgelu Hunaniaeth Marchnad Newydd wrth i’r Gwaith Cychwynnol ar Gynllun Adfywio 2035 ddechrau

Mae Cyngor Caerffili yn datgelu rendrad a brandio terfynol marchnad newydd wrth i ailddatblygiad uchelgeisiol y dref ddod yn ei flaen.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth ynghylch brandio y cyntaf o’u prosiectau adfywio, Ffos Caerffili, sef marchnad fodern a’r prosiect mawr cyntaf sy’n rhan o uwchgynllun ehangach Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae’r gofod newydd wedi’i enwi’n Ffos Caerffili, sy’n cyfieithu i ‘moat’ yn y Saesneg, gan adlewyrchu treftadaeth gyfoethog y dref a’r gaer ganoloesol eiconig sef castell Caerffili. Bydd Ffos Caerffili yn dathlu hanes bywiog Caerffili a’r ysbryd cymunedol lleol. Caiff Ffos Caerffili ei leoli ar Heol Caerdydd, gan ei gysylltu’n gyfleus â’r Stryd Fawr a’r parc. Bydd y datblygiad yn ofod unigryw i siopa, gweithio a chwrdd â ffrindiau a theulu, yn ogystal â rhywle i fwynhau’r golygfeydd dros y castell a gweddill canol y dref.

Wedi’i adeiladu o gynwysyddion llongau, bydd Ffos Caerffili yn ofod ecogyfeillgar, ffres, modern, amlswyddogaethol; yn gartref i gymysgedd o 28 o fwytai, siopau annibynnol a mannau gwaith. Yn ogystal â’r unedau masnachol, bydd Ffos Caerffili yn cynnwys teras allanol a fydd yn caniatáu bwyta yn yr awyr agored a man ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau cerddoriaeth awyr agored. Bydd ehangu arlwy ddiwylliannol Caerffili yn flaenoriaeth ar gyfer y prosiect datblygu cyfan, gan greu lle i ymwelwyr weithio, cymdeithasu ac ymlacio.

Disgwylir i’r farchnad agor yn gynnar yn 2024, gyda’r gwaith adeiladu’n dechrau y flwyddyn yma yn y gwanwyn. Bydd Tref Caerffili 2035 yn gwneud Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Bydd Ffos Caerffili yn creu canolbwynt cyffrous o fewn y dref, gan ddod â newid mewn cyflymeder i’r lle sydd i’w groesawu.

Mae’r rendradau artist isod yn cyflwyno’r dehongliad o Ffos Caerffili a’r cynllun lliwiau newydd –

 Delweddau gan Stride Architectural Design

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Pritchard:

“Bydd Ffos Caerffili yn lle sy’n dathlu ysbryd busnesau bach a masnachwyr lleol. Marchnad gymunedol sy’n cynnig profiadau bwyta blasus a newid cyflymder sydd i’w groesawu.

“Rydym i gyd yn gyffrous iawn i weld prosiect Caerffili 2035 yn dechrau dod yn fyw ac mae ein CGIs diweddaraf yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer golwg a theimlad y farchnad. Bydd gwireddu Ffos Caerffili yn darparu lle i’n dinasyddion gyfarfod, siopa a gweithio, tra’n creu mwy o resymau i ymweld â’r dref.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym yn darparu £100 miliwn rhwng 2022 a 2025 i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol pellach i ganol ein trefi a’n dinasoedd ledled Cymru. Mae ein polisi Canol Trefi yn Gyntaf, sydd wedi’i ymgorffori yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru’r Dyfodol, yn golygu mai safleoedd yng nghanol trefi a dinasoedd ddylai gael eu hystyried gyntaf ym mhob penderfyniad ynghylch lleoliadau gweithleoedd a gwasanaethau.”

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid eraill i gyflwyno’r glasbrint uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y dref o’r enw Rhaglen Creu Lle Caerffili 2035. Am fwy o fanylion ewch i’r wefan bwrpasol: https://www.caerphillytown2035.co.uk/

Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y farchnad?

Mae Cyngor Caerffili yn cynnal trafodaethau gyda chontractwyr ar hyn o bryd. Unwaith y bydd contractau wedi’u cadarnhau gallwn darparu amserlen fanwl. Ar hyn o bryd, disgwylir i’r gwaith ddechrau yn gynnar yn yr haf eleni gyda’r dyddiadau’n debygol o fod rhwng Mai a Mehefin.

Sut mae busnesau yn gwneud cais i gael eu lleoli yn y farchnad?

Cynlluniwyd y safle i groesawu 28 o fasnachwyr lleol mewn gofod cyffrous, modern. Wrth i ni ddatblygu Ffos Caerffili, rydym yn awyddus i dderbyn datganiadau o ddiddordeb gan fasnachwyr lleol sydd am sicrhau stondin. Mae gwefan Caerffili 2035 yn cael ei datblygu a chyn bo hir bydd ganddi wybodaeth gyswllt a fydd yn darparu ar gyfer anghenion y cyhoedd, buddsoddwyr a masnachwyr. Yn y cyfamser, cysylltwch â ni drwy wefan Cyngor Caerffili a gallwn roi gwybod i chi am ddyddiad lansio ein gwefan newydd yn fuan iawn.

A fydd y cyngor yn rhedeg y farchnad yn uniongyrchol neu a fydd yn cael ei is-gontractio?

Gweithredwr penodedig profiadol fydd yn ymdrin â gweithrediadau’r farchnad o ddydd i ddydd. Bydd y tendr ar gyfer y gweithredwr newydd hwn yn cael ei ryddhau yn fuan, yn ystod y misoedd nesaf.

Faint fydd hi i rentu uned?

Mae’r gost o rentu uned yn Ffos Caerffili eto i’w gadarnhau. Unwaith y byddwn wedi penodi gweithredwr marchnad, caiff prisiau rhent eu trafod a’u rhannu’n gyhoeddus.