Gwaith yn cychwyn yn swyddogol ar farchnad newydd Caerffili – Ffos Caerffili

 Y gwaith caib a rhaw wedi dechrau ar leoliad Heol Caerdydd cyn iddo agor yn gynnar yn 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau ar y gwaith caib a rhaw yn lleoliad Marchnad Ffos Caerffili, gan nodi cychwyn ar y gwaith adfywio yng Nghaerffili – diolch i bartneriaeth ariannol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’r cynnydd yn nodi dechrau cynllun ehangach Creu Lleoedd Caerffili 2035.

I nodi’r achlysur, daeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, y Cynghorydd Sean Morgan, Hamish Munro o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thîm Lancer Scott at ei gilydd i roi’r rhaw gyntaf yn y ddaear yn swyddogol.

Mae’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a’r Cynghorydd Jamie Pritchard ill dau wedi bod yn allweddol wrth wireddu’r prosiect hwn, gan sicrhau bod anghenion a dymuniadau’r gymuned leol yn cael eu hystyried, a bod y farchnad yn cael ei datblygu mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, y Cynghorydd James Pritchard:

“Mae’n wych gweld y datblygiad ar y gweill. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, a nawr bod y rhawiau yn y ddaear, gallwn fod yn gyffrous iawn bod Ffos Caerffili yn agor ei ddrysau yn ddiweddarach eleni. Allwn ni ddim aros!”

Rhoddodd Rheolwr Gweithrediadau’r cwmni adeiladu Lancer Scott, Adam Bidhendy, ddiweddariad ar eu cynnydd ac esboniodd eu cynlluniau ymhellach, sy’n cynnwys ardal golchi olwynion ac ysgubwyr ffyrdd wythnosol i gynnal safle a chanol y dref sy’n lân. Mae’r tîm yn awyddus i roi gwybod i drigolion am y cynnydd ar y safle trwy hysbysfwrdd, sgyrsiau wyneb yn wyneb â’r rhai sy’n mynd heibio a dosbarthu llythyrau i bobl leol a allai gael eu heffeithio gan yr aflonyddwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan:

“Fe wnaeth Pandemig y Coronafeirws atal llawer o’n prosiectau uchelgeisiol. Mae nodi dechrau’r gwaith yma heddiw ym mhrosiect marchnad cyffrous Ffos Caerffili, yn dangos ein bwriad i gyflawni ar brosiectau ledled y Fwrdeistref.”

Bu prosiect Ffos Caerffili yn bosibl diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grant gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd; ail-bwrpasu eiddo a esgeuluswyd; cynyddu gofod gweithio a byw hyblyg; a darparu mynediad i wasanaethau.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James:

“Mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn parhau i sicrhau canlyniadau gwych yn ein hymrwymiad a’n huchelgais i adfywio canol trefi ar draws Cymru, gan eu rhoi wrth galon popeth a wnawn.”

Am ragor o fanylion ewch i’r wefan bwrpasol: https://www.caerphillytown2035.co.uk/

DIWEDD


Nodiadau i olygyddion

Mae Trawsnewid Trefi yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu miliynau i adfywio canol trefi yng Nghymru. Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymuned Cymru, ac mae’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn ymroddedig i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio amser hamdden ynddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter Trawsnewid Trefi ewch i: https://www.llyw.cymru/cymorth-i-wella-canol-trefi/rhaglen-targedu-buddsoddiad-mewn-adfywio