Gohirio agoriad Ffos Caerffili
Statws prosiect:
Mae agoriad datblygiad marchnad newydd yng nghanol tref Caerffili wedi cael ei ohirio.
Er gwaethaf ymdrechion gorau’r holl bartïon, mae’r glaw sylweddol yn yr wythnosau diwethaf wedi effeithio ar adeiladu’r farchnad ac mae penderfyniad anodd wedi’i wneud i ohirio’r lansiad, a oedd fod i ddigwydd ddydd Gwener 15 Mawrth.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda gweithredwr y farchnad, rhagwelir dyddiad agor diwygiedig yn gynnar ym mis Ebrill er mwyn caniatáu i’r gwaith terfynol gael ei gwblhau i’r safonau uchel a ddisgwylir gan brosiect cyffrous fel hwn. Bydd digwyddiad lansio swyddogol yn dilyn.
“Mae’r cyngor yn gresynu’n fawr at yr oedi ac rydym yn gwerthfawrogi bod hyn yn newyddion siomedig i’r gymuned gyfan,” meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd Cyngor Caerffili.
“Yn anffodus, mae’r lefel uchel o law rydym wedi’i brofi wedi cael effaith sylweddol ar gwblhau’r gwaith. Rwy’n siŵr y bydd trigolion yn deall bod yn rhaid i ni sicrhau bod y safle’n ddiogel ac yn gwbl hygyrch cyn y gallwn agor y drysau i’r cyhoedd.
“Bydd y farchnad liwgar ar ffurf cynwysyddion yn ganolbwynt bywiog newydd i’r dref ac mae’r contractwyr yn gweithio’n galed i gwblhau’r cynllun cyn gynted â phosibl ochr yn ochr â gweithredwyr y farchnad a’n masnachwyr lleol,” ychwanegodd.
Mae Ffos Caerffili yn rhan allweddol o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035 y cyngor, gyda chymorth ariannol gan Fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae’r cynllun hefyd wedi’i gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n biler canolog yn agenda Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU.
Share the project locally…
The more people involved, the better the needs of the whole community will be reflected. Please consider sharing this page using the buttons at the bottom of the page.