Dyddiad swyddogol wedi ei osod ar gyfer lansio Ffos Caerffili 

Statws prosiect:

Dosbarthu

Masnachwyr yn rhannu eu cyffro wrth i’r dyddiad agor gael ei gadarnhau 

Heddiw, mae Ffos Caerffili – marchnad steil cynwysyddion Caerffili – wedi datgelu ei fasnachwyr cyntaf cyn lansiad swyddogol y lleoliad ar ddydd Gwener, Mawrth 15. 

Bydd y farchnad, sydd â ffocws ar y gymuned, yn ganolbwynt bywiog i’r dref ac yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Bydd y farchnad yn gweld llawer o wynebau cyfarwydd Caerffili yn cyfarfod o dan yr un to, gan gynnwys masnachwyr o’r hen farchnad ar Stryd Pentre-baen – fel Cath a Paul Livermore o gigydd teuluol Upmarket Butchers, a fydd yn agor siop bysgod yn Ffos Caerffili. 

Dywedodd Cath: “Ffos Caerffili yw’r lle delfrydol i lansio cangen newydd i’r busnes. Mae agor y farchnad yn rhoi cymaint o gyfle gwych i’r dref yr ydym yn ei charu i gael ychydig o ddechrau newydd. 

“Rydym yn gyffrous iawn i ymuno â chymaint o fusnesau lleol eraill a dod â rhywbeth newydd i Gaerffili.” 

Mae’r busnesau lleol eraill sydd am ymgartrefu yn Ffos Caerffili yn cynnwys Two Shot Social, menter coffi a brunch newydd gan ffrindiau a aned ac a fagwyd yng Nghaerffili, sef Daf Carter ac Ian Butterworth. 

Ar ôl blynyddoedd o fod eisiau agor siop goffi gyda’i gilydd, mae prosiect adfywio Tref Caerffili 2035 wedi caniatáu iddynt wireddu’r freuddwyd honno. 

Dywedodd Daf: “Cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’n cymuned leol ddenodd ni i Ffos Caerffili. 

“Ry’n ni eisoes wedi gweld cymaint o welliannau i Gaerffili ers i’r prosiect adfywio ddechrau, ac ry’n ni’n gyffrous iawn i fod yn rhan ohono a dod â rhywbeth ffres, newydd a modern i’n tref enedigol.” 

Mae Bab Haus enwog o Fedwas yn dod â’u bwyd stryd Califfornaidd a Mecsicanaidd adnabyddus i Ffos Caerffili. 

Dan arweiniad Leyli Homayoonfar – un o’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Lletygarwch 2021/22 CODE – mae Bab Haus wedi dod yn wir sefydliad bwyd stryd, gyda Ffos Caerffili ar fin cynnal eu pedwerydd safle yn ne Cymru. 

Sefydlodd Leyli, a aned yng Nghaerdydd, y Bab Haus cyntaf ym Medwas yn 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, gyda lleoliadau ychwanegol bellach yng Nghasnewydd a’r Barri. 

Dywedodd Leyli: “Ry’n ni mor gyffrous i agor yn Ffos Caerffili – mae’r golygfeydd o’n huned tuag at y castell yn anhygoel. 

“Yn ystod y cyfnod clo, ein cegin yn Bedwas oedd yr unig un gafodd ganiatád i agor ar gyfer darparu pecynnau bwyd cartref, ac rydym bob amser wedi cael cymaint o groeso gan y bobl yma yng Nghaerffili. 

“Dwi wedi bod yn aros am yr amser iawn i ddod â rhywbeth mwy parhaol i’r dref, ac mae Ffos Caerffili yn gyfle perffaith i ddod â Bab Haus i’r gymuned sydd wedi ein cefnogi cystal.” 

Bydd 28 o fasnachwyr yn Ffos Caerffili, gan gynnwys Cath, Ian, a Leyli, gan amrywio o fanwerthwyr a siopau bwyd a diod i swyddfeydd. 

Mae Ffos Caerffili yn rhan allweddol o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035 y cyngor, sydd â’r nod o adfywio canol y dref a denu mwy o ymwelwyr. Mae’r Cyngor wedi ymgysylltu â’r gymuned bob cam o’r ffordd, gyda dros 350 o drigolion yn darparu adborth personol ar y cynlluniau ar gyfer y dref. 

Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n biler canolog yn agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU. 

Bydd y farchnad yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd ddydd Gwener, Mawrth 15, gyda chynlluniau ar y gweill ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau i’r teulu gan gynnwys cerddoriaeth fyw, gweithgareddau, llawer o hwyl, a hynny i gyd wrth fwynhau’r bwyd a diod gorau gan y masnachwyr lleol wrth edmygu golygfeydd o Gastell Caerffili. 

Nid yw’r datblygiad wedi bod heb ei heriau, gyda’r cyngor yn cydnabod bod oedi anochel yn yr adeiladu wedi effeithio ar eu dyddiad agor gwreiddiol uchelgeisiol. 

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae nifer o heriau anodd wedi’u goresgyn er mwyn datblygu Ffos Caerffili, ond rwy’n falch bod dyddiad agor swyddogol bellach wedi’i osod. 

“Bydd y datblygiad hwn yn creu 40 i 50 o swyddi, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref ac yn darparu profiad cwbl newydd i bobl sy’n dod i Gaerffili. 

“Bydd Ffos Caerffili yn atyniad newydd yng nghanol y dref, gan ddarparu cyfleoedd i gwrdd, siopa a gweithio yng nghanol Caerffili. Ry’n ni i gyd yn gyffrous i ddangos ein cefnogaeth i’r masnachwyr newydd ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol!” 

Cyhoeddir y rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau lansio maes o law. 

// DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

Mae Trawsnewid Trefi yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu miliynau i adfywio canol trefi yng Nghymru. Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymuned Cymru, ac mae’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn ymroddedig i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio amser hamdden ynddynt. I gael rhagor o wybodaeth am y fenter Trawsnewid Trefi ewch i: https://www.llyw.cymru/canol-trefi-datganiad-sefyllfa-html  

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: josh@wearecowshed.co.uk neu elle@wearecowshed.co.uk  

Share the project locally…

The more people involved, the better the needs of the whole community will be reflected. Please consider sharing this page using the buttons at the bottom of the page.