Stryd Pentrebane

Am Stryd Pentrebane

Bydd datblygiad newydd Stryd Pentrebane yn trawsnewid yr ardal drwy ddisodli’r adeiladau segur presennol gyda 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel, gan ddod â chartrefi a chyfleoedd busnes sydd wir eu hangen i galon tref Caerffili.
Mae’r prosiect adfywio £21 miliwn hwn wedi’i ariannu gan Gyngor Caerffili a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Ar ôl ei gwblhau, caiff y cyfadeilad ei reoli gan Linc Cymru, rhan o’r Pobl Group.

Mae angen newid cadarnhaol yn y rhan hon o’r dref a bydd y prosiect hwn yn gwneud llawer i gyflwyno bywyd newydd i’r ardal.”

Y Cynghorydd Jamie Pritchard.

Sut y bydd yr ailddatblygiad yn effeithio arnoch chi

O fis Mawrth 17eg 2025, bydd y llwybr troed o flaen rhifau 8 i 20 Stryd Clive ar gau’n rhannol.

Bydd y lôn sy’n cysylltu Stryd Pentrebane a Stryd Clive y tu ôl i eiddo ar Stryd Bradford hefyd ar gau tra bod y gwaith dymchwel yn cael ei gwblhau.

Disgwylir i’r gwaith dymchwel gymryd tua 20 wythnos.