
Wedi’i adeiladu o gynwysyddion cargo, mae Ffos Caerffili yn ofod ecogyfeillgar, modern ac amlswyddogaeth sy’n gartref i dros 20 o fasnachwyr bwyd a diod a siopau annibynnol.
Mae Ffos, wedi’i enwi ar ôl y sianel o ddŵr o amgylch mur y castell, yn cysylltu’r farchnad â threftadaeth Castell Caerffili sy’n medru cael ei weld o’r farchnad.
Agorwyd Ffos Caerffili ym mis Ebrill 2024, a dyma’r prosiect Cynllun Creu Lleoedd cyntaf i gael ei wireddu.

Mae masnachwyr, trigolion ac ymwelwyr i Gaerffili yn teimlo effaith Ffos…
“Mae cael rhywbeth fel hyn yn gwneud i chi deimlo’n falch o ganol y dref.”
“Dyma’r peth gorau ers bara wedi’i sleisio” – (arhoswch am funud, dyna ein dyfyniad ni). Wel, chi’n gwbod, falle ein bod ni ychydig yn rhagfarnllyd, ond mae hynna oherwydd ein bod ni’n caru ein tref. Ac ry’n ni’n meddwl y gwnewch chi hefyd.
Ewch draw i Ffos Caerffili i ddarganfod hyn i gyd. Mae ar Heol Caerdydd, CF83 1FN.
Bwyta. Siopa. Gweithio. (Ac ymlacio) yn Ffos Caerffili