Cyfnewidfa Trafnidiaeth Caerffili

Mwy am Gyfnewidfa Trafnidiaeth Caerffili

Mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, mae cynlluniau ar y gweill i uwchraddio cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili.

Bydd y cyfleuster newydd sbon o’r radd flaenaf, yn ei gwneud hi’n haws i bawb deithio o gwmpas—p’un ai ydych chi’n mynd i’r gwaith, yn ymweld â ffrindiau, neu’n archwilio’r dref.

Mae hyn yn rhan o’r cynllun i wneud Caerffili yn lle hyd yn oed yn well i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Bydd cyfnewidfa Caerffili yn dod yn nodwedd amlwg yn y dref, gan wella'r apêl i ymwelwyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cyng. Jamie Pritchard

Beth sy'n cael ei uwchraddio?

Yn y cynlluniau, mae gorsaf fysiau Caerffili ar ei newydd wedd, wedi ei hailgynllunio er mwyn ei gwneud yn lle mwy croesawgar i unrhyw un sy’n cyrraedd Caerffili, neu’n ei gadael.

Bydd yr orsaf drenau hefyd yn elwa o ddyluniad newydd sbon, gyda gwelliannau megis mwy o gapasiti, cyntedd a phont fodern, a chyfleusterau giât tocynnau wedi’u huwchraddio.

Bydd yr ardaloedd cyfagos yn cael eu hadnewyddu hefyd, gan sicrhau profiad di-dor, deniadol a hygyrch wrth gyrraedd y dref a’i gadael ar drafnidiaeth gyhoeddus.