
Ers 1268, mae Castell Caerffili wedi bod yn ganolbwynt balch yn y dref. Yr unig wahaniaeth nawr yw nad oes neb yn rhuthro i ymosod ar y giât flaen – maen nhw’n cael eu croesawu â breichiau agored. Hwn yw castell mwyaf Cymru ac mae’n denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Fel rhan o’r Cynllun Creu Lleoedd, mae Cadw yn arwain ailddatblygiad gwerth £10 miliwn i drawsnewid y safle eiconig hwn yn gyrchfan ymwelwyr fodern, gwbl hygyrch, gan sicrhau ei le wrth galon Caerffili am genedlaethau i ddod.

Caiff y buddsoddiad o £10 miliwn ei ddarparu mewn dau gam.
Cam 1
Mae Cadw yn gwella gwaith strwythurol hanfodol, gan gynnwys cadwraeth, atgyweirio to, ac uwchraddio’r Neuadd Fawr (bydd hi hyd yn oed yn fwy).
Cam 2
Cymysgu’r hen a’r newydd. Bydd Cam 2 yn cyflwyno cyfleusterau’r 21ain ganrif i’r safle canoloesol nodedig hwn: bydd canolfan ymwelwyr newydd sbon, gofod dehongli gwell, a chaffi ar y safle yn cael eu hadeiladu i bawb eu mwynhau.