Mae'r wefan hon wedi'i datblygu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cael ei rheoli gan y Cyngor. Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu: - Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau - Chwyddo i hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin. - Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig. - Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd. - Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin. Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd neu unrhyw ofynion hygyrchedd.
Os na allwch gael mynediad at rywbeth sydd ei angen arnoch ar y wefan hon, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni ddarparu’r hyn sydd ei angen arnoch mewn ffordd arall: E-bost: CRM@caerphilly.gov.uk Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem mor fuan â phosib, dywedwch wrthym: - Cyfeiriad gwe neu deitl y dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem - Beth yw’r broblem - Pa gyfrifiadur a meddalwedd rydych chi’n eu defnyddio Ffurflen i adrodd am broblemau hygyrchedd yn unig yw hon. Os hoffech gysylltu â ni ynglyn â rhywbeth arall, ac os oes angen ymateb arnoch, defnyddiwch ein tudalen gyswllt Os ydych chi wedi gwneud cwyn ac nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydyn ni wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Rydyn ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n profi unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â CRM@caerphilly.gov.uk.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd). Os nad ydych chi’n fodlon gyda sut rydyn ni wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os oes gennych nam ar eich clyw neu leferydd, neu os ydych yn Fyddar, gallwch gysylltu â ni drwy wasanaeth Testun Next Generation (a elwir hefyd yn Text Relay a TypeTalk). Deialwch 18001 cyn y rhif ffôn llawn. Mae dolenni sain ar gael yn ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu rywun i gyfieithu iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg ar eich cyfer. Mae dogfennau, biliau, tudalennau gwe ac adnoddau eraill ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. Byddwn hefyd yn trafod gyda'r cwsmer wrth drefnu i ddod o hyd i'r ateb gorau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymroddedig i wneud y wefan hon yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae gwefan Caerffili.gov.uk yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (EASS). , oherwydd y diffygion o ran cydymffurfio sydd wedi’u rhestru isod.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd (EASS). yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag gorfod bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. (EASS).
Rhaid i unrhyw systemau trydydd parti newydd sy’n cael eu comisiynu ar gyfer y wefan gydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Fodd bynnag, mae apiau trydydd parti yn rhannol neu'n gyfan-gwbl y tu allan i'n rheolaeth ac felly efallai na fyddant yn cydymffurfio â'r un lefelau hygyrchedd â gweddill y wefan. Rydyn ni’n monitro hygyrchedd y gwefannau hyn ac yn gofyn i gyflenwyr drwsio problemau hygyrchedd sy'n codi.
Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Gorffennaf 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 28 Gorffennaf 2025.
Mwynhewch bob datblygiad yn Caerffili. Cliciwch ar y cardiau prosiect isod a dewch gyda ni drwy'r dref.
Bydd prosiect Cadw, gwerth £16 miliwn, yn gwarchod ac yn trawsnewid Castell Caerffili o'i drwmgwsg i fod yn atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf.
Find out more
Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol a mannau gwaith - mae Ffos Caerffili wedi'i wneud i bawb.
Find out more
Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu porth i drigolion ac ymwelwyr newydd.
Find out more
Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy'n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu. Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae'r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.
Find out more
Synhwyrydd ar gyfer casglu data traffig, sy’n cael ei bweru gan ddinasyddion, yw Telraam. Bydd yn helpu pobl i ddeall sut mae pawb yn teithio, gan wneud mynd i mewn ac o gwmpas Caerffili yn haws.
Find out more
Menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel.
Find out more