Shwmae! Helô! Croeso i’r adran Cwestiynau Cyffredin. Yma, cewch atebion i gwestiynau cyffredin am gynlluniau, prosiectau a datblygiadau yng Nghaerffili.
Marchnadoedd crefft. Gwyliau cerddoriaeth. Ffeiriau bwyd. O… a chastell eithaf enwog. Enwch e’, mae e’ yma. Edrychwch ar ein tudalen Ymweld am fwy.
Dysgwch am hanes Caerffili yma.
Eisiau gwesty? Gwely a Brecwast? Airbnb? Dewch o hyd iddyn nhw yma.
Mae digon o lefydd a lleoedd parcio yn y dref. Dyma ein hargymhellion: Maes Parcio Heol Cilgant (Ar agor 24 awr) Maes Parcio Y Twyn (Ar agor 24 awr) Parcio a Theithio Caerffili (Ar agor 24 awr)
Mae’n ymdrech gydweithredol i greu lle sy’n adlewyrchu’r bobl sy’n byw yno. Mae cynllun creu lleoedd hefyd yn adeiladu ar y cryfderau presennol i wella canfyddiad y cyhoedd, mannau cyhoeddus, a phosibiliadau.
Mae Creu Lleoedd yn golygu gweithio’n gyson gyda chymunedau i sicrhau bod lle yn fywiog ac yn adlewyrchu anghenion y bobl sy’n byw yno. Wedi dweud hynny, rydym yn anelu at 2035. Dyma pryd y dylech weld, teimlo a phrofi newid gwirioneddol. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy.
2035 yw’r llinell derfyn i ni ei osod. Mae llawer o'r prosiectau ar raddfa fawr a byddant yn cymryd amser. Erbyn 2035, bydd pob prosiect yn weithredol. Ond nid yw'n stopio fan yna. Mae Creu Lleoedd golygu gwelliant cyson a gweithio gyda phobl i sicrhau bod lle yn fywiog ac yn gyfredol. A dyna beth fyddwn ni'n parhau i'w wneud.
Mae yna sawl ffordd o gymryd rhan. Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio cyhoeddus, gweithdai cymunedol ac arolygon digidol fel y gallwch fynegi eich barn ar bob datblygiad yn y dref.
Rydyn ni bob amser yn diweddaru ein ffrydiau cymdeithasol gyda'r newyddion diweddaraf. Dilynwch ni ar Instagram a Facebook. Chi fydd y cyntaf i glywed.
Mwynhewch bob datblygiad yn Caerffili. Cliciwch ar y cardiau prosiect isod a dewch gyda ni drwy'r dref.
Bydd prosiect Cadw, gwerth £16 miliwn, yn gwarchod ac yn trawsnewid Castell Caerffili o'i drwmgwsg i fod yn atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf.
Find out more
Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol a mannau gwaith - mae Ffos Caerffili wedi'i wneud i bawb.
Find out more
Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu porth i drigolion ac ymwelwyr newydd.
Find out more
Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy'n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu. Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae'r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.
Find out more
Synhwyrydd ar gyfer casglu data traffig, sy’n cael ei bweru gan ddinasyddion, yw Telraam. Bydd yn helpu pobl i ddeall sut mae pawb yn teithio, gan wneud mynd i mewn ac o gwmpas Caerffili yn haws.
Find out more
Menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel.
Find out more