Bydd ein Cynllun Creu Lleoedd mentrus ac uchelgeisiol yn trawsnewid Caerffili, gan ei
gwneud yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi
Mae Caerffili yn lle ar gyfer syniadau mawr a safbwyntiau newydd. Dyna pam rydyn ni, ar y cyd gyda phobl Caerffili, yn ailddychmygucanol y dref er mwyn adlewyrchu ei chymeriad, ei hanghenion a’i dyheadau unigryw.
Mae cynllun creu lleoedd yn lasbrint ar gyfer creu mannau cyhoeddus atyniadol sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a lle. Mae’n broses ar y cyd sy’n ffocysu ar obeithion cymdeithasol, diwylliannol, ariannol ac amgylcheddol cymuned.
Gadewch i ni egluro…mae Cynlluniau Creu Lleoedd fel paratoi ar gyfer marathon. Mae sawl cam cyn cychwyn y ras (y cynllun).
Dyma’r weledigaeth sydd gan Gaerffili am sut dref rydyn ni am fod. Dyma ein nod ac rydyn ni’n benderfynol o’i gyrraedd.
Caiff Cynlluniau Creu Lleoedd eu gyrru gan bobl leol. Drwy weithdai, arolygon a chyfarfodydd cyhoeddus, rydyn ni’n sicrhau bod lleisiau’r gymuned yn cael eu clywed – bob cam o’r ffordd.
Nid diwedd y cynllun yw’r syniadau. Mae ein strategaeth yn amlinellu’r camau rydyn ni’n cymryd i gynllunio, adeiladu a darparu datblygiadau er mwyn gwneud Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Nododd Ffos Caerffili y cam cyntaf ym mhrosiect Tref Caerffili 2035, ond mae llawer mwy ar y gweill.
P’un ai eich bod yn byw yn y dref, yn chwilio am le i alw’n gartref, yn entrepreneur neu’n ymweld â’r dref, mae Caerffili ar eich cyfer chi.
Erbyn 2035, bydd y si am Gaerffili ar bob stryd.
Hedfanwch dros Gaerffili i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer ein tref.
Mwynhewch bob datblygiad yn Caerffili. Cliciwch ar y cardiau prosiect isod a dewch gyda ni drwy'r dref.
Bydd prosiect Cadw, gwerth £16 miliwn, yn gwarchod ac yn trawsnewid Castell Caerffili o'i drwmgwsg i fod yn atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf.
Find out more
Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol a mannau gwaith - mae Ffos Caerffili wedi'i wneud i bawb.
Find out more
Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu porth i drigolion ac ymwelwyr newydd.
Find out more
Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy'n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu. Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae'r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.
Find out more
Synhwyrydd ar gyfer casglu data traffig, sy’n cael ei bweru gan ddinasyddion, yw Telraam. Bydd yn helpu pobl i ddeall sut mae pawb yn teithio, gan wneud mynd i mewn ac o gwmpas Caerffili yn haws.
Find out more
Menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel.
Find out more