Ffos Caerffili
Statws prosiect:
Marchnad newydd sy’n canolbwyntio ar y gymuned a chanolbwynt bywiog i’r dref.
Mae rhywbeth newydd yn dod i dref Caerffili; dyma gyflwyno ein marchnad newydd – Ffos Caerffili.
Os ydych chi’n fasnachwr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r gymuned yn Ffos Caerffili, sgroliwch i lawr i’n ffurflen Mynegi Diddordeb, a’i dychwelyd i esther@placepartnership.org
Mae’r gwaith caib a rhaw wedi nodi dechrau swyddogol ar ein marchnad newydd – Ffos Caerffili, y cyntaf o brosiectau adfywio ehangach Caerffili 2035.
Wrth agor ei drysau yn yr hydref eleni, bydd y farchnad newydd yn gweithredu fel canolbwynt bywiog i’r dref.
Wedi’i leoli ar Heol Caerdydd, bydd Ffos Caerffili yn cysylltu’r Stryd Fawr â’r parc, ac yn darparu golygfeydd godidog dros ein castell a chanol ein tref – lle perffaith i eistedd ac ymlacio.
Dewch yn ôl am ragor o wybodaeth neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael diweddariadau misol.
Lawrlwythwch Llyfryn Masnachwyr Ffos Caerffili yma
Danfonwch yr holl ffurflenni Mynegi Diddordeb i esther@placepartnership.org
Ffeiliau prosiect
Oriel y prosiect
Rhannu’r prosiect yn lleol…
Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau y bydd anghenion y gymuned gyfan yn cael eu hadlewyrchu. A wnewch chi rannu’r dudalen hon gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen.